Croesi’r Bar: Archwilio Hunaniaeth y Mewnfudwr Prydeinig Trwy Gyfrwng Archif yr Artist Cliff McLucas

field.jpg

2009 - 2013

Prifysgol Aberystwyth

Prosiect Doethuriaeth Ymarfer fel Ymchwil

Prosiect doethuriaeth sy’n seiliedig ar archif yr artist a chyfarwyddwr theatr Cliff McLucas (1945-2002).  Mae’r traethawd yn cynrychioli ymdrech i ysgrifennu llyfr arfaethedig McLucas The Host and the Ghost: Some approaches to Site in the Theatre Works of Brith Gof 1989-1999 fel math o ymarfer fel ymchwil.  Roedd y cynnig wedi paratoi gan McLucas ar gyfer y cyhoeddwr academig Routledge. 

Wrth ddilyn strwythur ei gynnig mae’r traethawd yn llenwi bylchau’r cynnwys gan gyfeirio at archif Brith Gof ac at archif McLucas.  Mae’r traethawd yn dadlau dros bwysigrwydd brofiad McLucas o fewnfudo i Gymru a’i ymdrech yn sgil hynny i ddysgu’r iaith Gymraeg fel sail i’w waith creadigol yng Nghymru.  Mae’r ddadl hwn yn seiliedig ar ei ddefnydd parhaol o’r cysyniad o gymysgrywedd neu hybridity sy’n fodd iddo greu hunaniaeth ddiwylliannol sy’n disgrifio'r profiad hynny heb gyfeirio yn uniongyrchol at ei etifeddiaeth Saesneg Prydeinig.

Rwy’n ychwanegu at y ddadl trwy gynnwys trafodaeth o’m gwaith creadigol fy hun sy’n archwilio fy mhrofiad o fod yn blentyn i fewnfudwyr Prydeinig a’m perthynas yn sgil hynny gyda’r iaith Gymraeg.Rwy’n dadlau i archif McLucas gynnig cyfle i mi gyd-nabod profiadau mewnfudwyr Prydeinig mewn cyd-destun Cymraeg a Chymreig.

Cyllidwyd y prosiect yma gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Am fwy o wybodaeth gweler: https://www.rowanoneill.com/blog/hybridity

For information about this project in English please see:

https://www.rowanoneill.com/blog/hybridity

https://www.rowanoneill.com/blog/mapio-cymru

Previous
Previous

Gorsafoedd yr Albion / Stations of the Albion

Next
Next

Hwyl Fawr Frank Lloyd Wright